default

Casgliad o amrywiol ysgrifau canolig a hir sydd yn y safle hon am wahanol agweddau o hanes y ddau blwyf, Llanllechid a Llandygai, o bobtu afonydd Ogwen a Llugwy o Gapel Curig yn y dwyrain i Afon Menai a Thraeth Lafan, yn y gorllewin Mae’r dyffryn hirgul, estynedig yn cynnwys nifer o bentrefi, gyda Bethesda yr un mwyaf amlwg – a phoblog. Er fod Dyffryn Ogwen yn cael ei gysylltu’n flaenaf gyda’r diwydiant llechi, gyda Chwarel Braich y Cafn ar un adeg, y fwyaf yn y byd, y mae llawer mwy o hanes na hynny i’r ardal; mae’r safle hon yn canolbwyntio’n bennaf ar yr hanes hwnnw, hanes sy’n cael ei anwybyddu, a’i wthio i’r cefndir. Byddir yn trafod agweddau o hanes y dyffryn y tu hwnt i’r chwarel, a’r diwydiant llechi, yngyd â chyfnodau cyn cychwyn y diwydiant. Cafodd llawer o’r ysgrifau hyn eu traddodi fel darlithoedd i gymdeithasau hanes yr ardal dros y blynyddoedd. Gobeithio y bydd ambell un o ddiddordeb i un neu ddau.

Hendref Talybont yng ngwaelodion plwyf Llanllechid

Wrthi’n cael ei hadeiladu mae’r safle, felly bydd angen amynedd, oherwydd fe gymer amser i roi gwahanol ysgrifau i fyny yn fyw

Chwaer safle i hon ydy www.enwaudyffrynogwen.org sy’n rhoi cefndir, hanes, ac ystyr nifer o enwau diddorol yr un ardal